Get all 5 Daf Jones releases available on Bandcamp and save 20%.
Includes unlimited streaming via the free Bandcamp app, plus high-quality downloads of Paid Troi 'Nôl, Sbardun, Diffodd y Swits, Dare to Dream, and Stone.
1. |
Diffodd y Swits
03:51
|
|||
Diwrnod hir unwaith eto
Meddylfryd yma'n wallgof
Allai ddim just camu 'nôl
Can milltir yr awr tro ar ôl tro
Pob math o syniadau yn rhedeg fel y lli
A ydw i yn wirion? Be sydd yn bod 'fo fi?
O - be dwi'n ei wneud?
Mae'n da i ddim
O - be allai ddweud?
Alla i ddim
Diffodd y swits
Troi a throsi yn fy nghwsg
Breuddwydion gwyllt yn ffurfio'r gwlwm
A rhaid i mi just ffeindio ffordd
I arwain fy meddylfryd coll
O - be dwi'n ei wneud?
Mae'n da i ddim
O - be allai ddweud?
Alla i ddim
Diffodd y swits
O - be dwi'n ei wneud?
Mae'n da i ddim
O - be allai ddweud?
Alla i ddim
Diffodd y swits
|
||||
2. |
Sbardun
02:57
|
|||
Be di dy bwynt di?
Teimlo'n ddi-werth dwi
Sut ti'n meddwl ydw i?
Ti'n mynd i ddweud hyn
Yn syth yn ei erbyn
Ddim yn ddu a gwyn
Lle mae'r tân, lle mae'r fflam?
Lle mae'r sbardun rhyngom ni?
Pa gyfeiriad wyt ti am droi?
Ti'n mynd i dynnu ta 'ngwthio i?
Ti'n mynd yn ddistaw
Sefyllian yn y glaw
O'r hyder i mewn i'r braw
Ti'n rhewi am gyfnod
Ti'n dweud fod o'n ormod
Dwi ar goll yn dy gollnod
Lle mae'r tân, lle mae'r fflam?
Lle mae'r sbardun rhyngom ni?
Pa gyfeiriad wyt ti am droi?
Ti'n mynd i dynnu ta 'ngwthio i?
Lle mae'r tân, lle mae'r fflam?
Lle mae'r sbardun rhyngom ni?
Pa gyfeiriad wyt ti am droi?
Ti'n mynd i dynnu ta 'ngwthio i?
Lle mae'r tân, lle mae'r fflam?
Lle mae'r sbardun rhyngom ni?
Pa gyfeiriad wyt ti am droi?
Ti'n mynd i dynnu ta 'ngwthio i?
|
||||
3. |
Tafliad Carreg
03:41
|
|||
Mae amser aur yn mynd rhy gyflym
Disgwylia amdana i
Wnawn ni'm byw am byth yn anffodus
Dyna'r gwir
Oh-oh-oh, oh-oh
Dyna obaith
Oh-oh-oh, oh-oh
A ni wnaiff bysedd amser fynd am amser maith
Mi wna i yma adael fy nghraith
Dwi eisiau treulio f'oes wrth d'ochr di
Beth yw d'ymateb?
Dwi eisiau rhannu'r hwyl hefo chdi
O fewn tafliad carreg
Oh-oh-oh, oh-oh
Dyna obaith
Oh-oh-oh, oh-oh
A ni wnaiff bysedd amser fynd am amser maith
Mi wna i yma adael fy nghraith
Paid troi 'nôl, paid troi 'nôl fan hyn
Paid troi 'nôl, paid troi 'nôl fan hyn
Paid troi 'nôl, paid troi 'nôl fan hyn
Paid troi 'nôl, paid troi 'nôl fan hyn
A ni wnaiff bysedd amser fynd am amser maith
Mi wna i yma adael fy nghraith
Paid troi 'nôl, paid troi 'nôl fan hyn
Paid troi 'nôl, paid troi 'nôl fan hyn
|
||||
4. |
Cysgodion
03:18
|
|||
Allai'm gweld ble rwyt ti nawr
A wyt ti'n cuddio yma draw?
Mae golau'r lloer yn mynd
Tu ôl i'r cymylau mud
Be wyt ti 'di wneud, be wyt ti 'di wneud?
Be wyt ti 'di wneud, be wyt ti 'di wneud?
O, aethom ni am dro
Ond rwyt ti'n cuddio yn y cysgod
O, tyrd yn ôl i mi
Tydi hyn ddim yn ddoniol ddim mwy
Mae'r golau wedi mynd
A does dim gwybod pwy sydd fan hyn
Mi fuaswn i 'di ffonio chdi
Ond does gen i ddim batri
Be wyt ti 'di wneud, be wyt ti 'di wneud?
Be wyt ti 'di wneud, be wyt ti 'di wneud?
O, aethom ni am dro
Ond rwyt ti'n cuddio yn y cysgod
O, tyrd yn ôl i mi
Tydi hyn ddim yn ddoniol ddim mwy
Does dim twrw yn unman
Dim ond y brain sydd yma'n sgrechian
A elli di ddod i mewn i'r golwg?
I mewn o'r poendod a'r tywyllwch
O, aethom ni am dro
Ond rwyt ti'n cuddio yn y cysgod
O, tyrd yn ôl i mi
Tydi hyn ddim yn ddoniol ddim mwy
O, aethom ni am dro
Ond rwyt ti'n cuddio yn y cysgod
O, tyrd yn ôl i mi
Tydi hyn ddim yn ddoniol ddim mwy
|
||||
5. |
Glaw
03:41
|
|||
Eistedd yn y traffig
Y weipars yma'n ffyrnig
Allai'm gweld ymlaen
To'r car yn tarannu
Diferion ddaw i gasglu
A rhedeg lawr y ffenest flaen
A oes haul i ddod i godi'r tywyllwch mawr?
A daw gwynt i hel y cymylau o'ma nawr?
A daw rhywbeth i gael gwared o'r glaw?
A setlo'r dydd tymhestlog yma'n awr?
Chwarae gyda'r wireless
Dim signal yma'n hopeless
Digalon yma'n wir
Y diod yma'n mynd yn fflat
Dyheu na fysa yma grât
Ond disgwyl fydd rhaid i mi
A oes haul i ddod i godi'r tywyllwch mawr?
A daw gwynt i hel y cymylau o'ma nawr?
A daw rhywbeth i gael gwared o'r glaw?
A setlo'r dydd tymhestlog yma'n awr?
A oes haul i ddod i godi'r tywyllwch mawr?
A daw gwynt i hel y cymylau o'ma nawr?
A oes haul i ddod i godi'r tywyllwch mawr?
A daw gwynt i hel y cymylau o'ma nawr?
A daw rhywbeth i gael gwared o'r glaw?
A setlo'r dydd tymhestlog yma'n awr?
|
||||
6. |
Trysor
03:13
|
|||
Daw y glaw a'i gwmni
Chwythai'r gwynt a'i ddaioni
Daw 'na beth i'w drysori
Bywyd gwerthfawr wyt ti
Na-na-na, na-na-na
Rho im gryfder
Na-na-na, na-na-na
Gad i mi dy ddal yn dyner
Methu meddwl am ennyd
Ar goll yn nryswch dy wynfyd
Bythol deimlad ysblennydd
Teimlad sydd mor hyfryd
Na-na-na, na-na-na
Rho im gryfder
Na-na-na, na-na-na
Gad i mi dy ddal yn dyner
Na-na-na, na-na-na
Rho im gryfder
Na-na-na, na-na-na
Gad i mi dy ddal yn dyner
Na-na-na, na-na-na
Daw emosiwn trosodd
Na-na-na, na-na-na
A rho im
Rho im dy drysor
Rho im dy drysor
Rho im dy drysor
|
||||
7. |
Rhwng Cariad a Chur
03:32
|
|||
Mae'n amhosib i ddiffinio yn y dryswch
Ydi o'n glir i ti ymddangos o'r anialwch?
Oh-oh-oh, rho im siawns
Rhanna'r ddawns gyda mi
Mi ydan ni mor ffôl
Rhwng cariad a chur
Yma'n ôl
Fyddi di yno i mi?
A alla i ddibynnu arnat ti?
Ydi'r wefr yn rhedeg trwyddom ni?
Craciau'n ceisio
Ymddangos yn ein tirwedd
Teimladau'n cleisio
Arddangos yno o nunlle
Oh-oh-oh, rho im siawns
Rhanna'r ddawns gyda mi
Mi ydan ni mor ffôl
Rhwng cariad a chur
Yma'n ôl
Fyddi di yno i mi?
A alla i ddibynnu arnat ti?
Ydi'r wefr yn rhedeg trwyddom ni?
Mi ydan ni mor ffôl
Rhwng cariad a chur
Yma'n ôl
Fyddi di yno i mi?
A alla i ddibynnu arnat ti?
Ydi'r wefr yn rhedeg trwyddom ni?
|
||||
8. |
Seren Wib
03:45
|
|||
Tywyll yw'r noson
Y noson hon o'n hamgylch ni
Y sêr wedi'w gosod
'Di'w gosod mewn patrwm llachar, clir
Sefyll yn ddistaw
Distawrwydd yn disgyn trosom ni
Yr hyn sydd uwchlaw
Uwchlaw yn edrych arnom ni
Ond mae un yn tywynnu'n llachar
Mwy llachar na'r lleill
Yr un sydd yno'n siarad
Fel bod rhywbeth ar y gweill
Oh-oh-oh, seren wib yn canu
Amser yn diflannu
Oh-oh-oh, seren wib yn canu
Amser yn diflannu
Gwêl y goleuni
Goleuni yn gafael yn y nos
Does dim byd amdani
Amdani ond i gymryd hyn fel rhodd
A mae un yn tywynnu'n llachar
Mwy llachar na'r lleill
Yr un sydd yno'n siarad
Fel bod rhywbeth ar y gweill
Oh-oh-oh, seren wib yn canu
Amser yn diflannu
Oh-oh-oh, seren wib yn canu
Amser yn diflannu
A mae un yn tywynnu'n llachar
Mwy llachar na'r lleill
Yr un sydd yno'n siarad
Fel bod rhywbeth ar y gweill
Oh-oh-oh, seren wib yn canu
Amser yn diflannu
Oh-oh-oh, seren wib yn canu
Amser yn diflannu
|
||||
9. |
Darganfod y Teimlad
05:00
|
|||
Deffro'n ddryswch ar ôl cwsg
Breuddwydion neithiwr yn y mwg
Dyheu am drefn wrth feddwl 'nôl
Atgyweirio'r dyddiau ffôl
Ond i ble wnes di fynd?
I ble wnes di droi ar dy sawdl a mynd?
Ac ers i ti fy ngadael i
Dwi'n syllu am y sêr uwchlaw
Anesboniadol deimlad gennyf i
Mae'r dyfodol yn codi braw
A alla i ddarganfod hyn dan oleuni'r lleuad?
A alla i geisio i ddarganfod y teimlad?
Hel atgofion fel ceiniogau prin
Oes wahanol i'r oes hyn
A gwêl dy wên wrth 'sgwennu cân
Ti yw'r fflam gynhesaf yn y tân
Ond i ble wnes di fynd?
I ble wnes di droi ar dy sawdl a mynd?
Ac ers i ti fy ngadael i
Dwi'n syllu am y sêr uwchlaw
Anesboniadol deimlad gennyf i
Mae'r dyfodol yn codi braw
A alla i ddarganfod hyn dan oleuni'r lleuad?
A alla i geisio i ddarganfod y teimlad?
Ac ers i ti fy ngadael i
Dwi'n syllu am y sêr uwchlaw
Anesboniadol deimlad gennyf i
Mae'r dyfodol yn codi braw
A alla i ddarganfod hyn dan oleuni'r lleuad?
A alla i geisio i ddarganfod y teimlad?
|
||||
10. |
Trwy Dy Waed
03:39
|
|||
Paid a dweud dy fod ti'n fodlon troi dy gefn
Ar bob dim ti di ceisio hyd yn hyn
Mae gymaint wedi digwydd, o mi wn
I ti daflu'r cwbl yn awr i ffwrdd i'r llwch
Ti'n gryfach berson ar ôl hyn i gyd
Cofia ein bod ni yma'n awr i ti
A dyma ti, be weli di?
(Woah-oh-oh, woah-oh-oh)
Y drych twyllodrus yn ein plith
(Woah-oh-oh, woah-oh-oh)
Teimla'r gwres o 'nghalon i
Yn rhedeg trwy'th wythiennau di
Paid a dweud dy fod ti'n ceisio ar ddarlun ffals
Ymestyn am y testun sydd yn chwâl
O fe redai profiad bywyd trwy dy waed
Daw eto haul ar fryn, paid teimlo'n gaeth
Ti'n gryfach berson ar ôl hyn i gyd
Cofia ein bod ni yma'n awr i ti
A dyma ti, be weli di?
(Woah-oh-oh, woah-oh-oh)
Y drych twyllodrus yn ein plith
(Woah-oh-oh, woah-oh-oh)
Teimla'r gwres o 'nghalon i
Yn rhedeg trwy'th wythiennau di
Dal yn dynn i'th galon heno
Ar ôl poen, daw angerdd iddo
A bydda'n ddewr, cofia fentro
'Chos dyma'r dydd i ti guro
A dyma ti, be weli di?
(Woah-oh-oh, woah-oh-oh)
Y drych twyllodrus yn ein plith
(Woah-oh-oh, woah-oh-oh)
Teimla'r gwres o 'nghalon i
Yn rhedeg trwy'th wythiennau di
|
Daf Jones Wales, UK
Solo artist from Anglesey, North Wales.
I've been writing my own songs for over 15 years and have just released my debut album on the 8th of January, 2021.
Streaming and Download help
If you like Daf Jones, you may also like:
Bandcamp Daily your guide to the world of Bandcamp